Y Salmau 75
75
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Salm. I Asaff. Cân.
1Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti;
y mae dy enw yn agos wrth adrodd am dy ryfeddodau.
2Manteisiaf ar yr amser penodedig,
ac yna barnaf yn gywir.
3Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion,
myfi sy'n cynnal ei cholofnau.
Sela
4Dywedaf wrth yr ymffrostgar, “Peidiwch ag ymffrostio”,
ac wrth y drygionus, “Peidiwch â chodi'ch corn;
5peidiwch â chodi'ch corn yn uchel
na siarad yn haerllug wrth eich Craig#75:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, gyda gwddf..”
6Nid o'r dwyrain na'r gorllewin
nac o'r anialwch y bydd dyrchafu,
7ond Duw fydd yn barnu—
yn darostwng y naill ac yn codi'r llall.
8Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD,
a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu;
fe dywallt ddiod ohono,
a bydd holl rai drygionus y ddaear
yn ei yfed i'r gwaelod.
9Ond clodforaf fi am byth,
a chanaf fawl i Dduw Jacob,
10am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus,
a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.
Currently Selected:
Y Salmau 75: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004