Iöb 1

1
I.
1Yr oedd gwr yngwlâd #1:1 Wts, — tebygol yw mai yn Arabia Petræa yr oedd y wlad hon. Wts â’i enw Iöb, ac yr oedd y gwr ei hun yn berffaith ac yn uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni; 2ac fe anwyd iddo saith o feibion a thair o ferched; 3a’i dda #1:3 Yr Arabiaid Beduinaidd yw’r llwythau hynny sy’n trigo mewn pebyll, nid mewn trefydd. Llygriad yw’r gair beduin o’r gair Arabaidd badwî, a dynir o’r enw cadarn badw, “gwlad agored,” “anialdir;” ac arwyddoccâ preswyliwr yr anialwch. Sylwa Niebuhr fod yr Arabiaid a drigant mewn trefydd wedi ymgyfeillach cymmaint â dieithriaid fel y maent wedi colli llawer o’u hen ddefodau a’u harferion. Ond y gwir Arabiaid, y rhai a werthfawrogant ryddid uwch law cyfoeth, ydynt yn byw mewn pebyll, ac y maent hyd heddyw yn ymlynyd wrth ffurflywodraeth, arferion a defodau eu henafiaid. Galwant eu pendefigion yn “sheikhiaid.” Y mae’r sheikh yn llywodraethu dros ei deulu, a’i holl weision. Y mae gan sheikhiaid y llwythau mwyaf nifer lliosog o gamelod, y rhai a gadwant er mwyn eu cynnorthwyo mewn rhyfel, i gludo nwyddau marchnatwyr o’r naill dref i’r llall, a hefyd er mwyn eu gwerthu. Y mae y llwythau lleiaf, y rhai sy’n dlotach ac yn llai annibynol, yn benaf yn magu ac yn gofalu am ddefaid. Tir-driniaeth a gwaith caled o gyffelyb natur a ddygir ymlaen gan eu deiliaid, yr Arabiaid cyffredin, y rhai sy’n byw mewn bwthynod truenus: y mae’r sheikhiaid yn byw mewn pebyll. Gwneir pebyll y Beduiniaid o frethyn brâs a thywyll, a weuir gan eu gwragedd, ac a dynnir dros saith neu naw o bolion, wedi eu plannu yn y ddaear. Y mae’r pebyll mwyaf yn ddwy neu dair rhan, fel y bo ystafelloedd gwahanol i’r dynion, i’r gwragedd, ac i’r anifeiliaid dof. Y sawl sy’n rhy dlawd i wneyd pabell rëolaidd a arferant daenu darn o frethyn, cymmaint ag a allant ei gael, ger llaw coeden; neu hwy a ymgysgodant rhag poethder neu wlaw yngogofau’r creigiau. Yr Arabiaid cyn amser Mahommed, fel yr Arabiaid presennol, a drigent, rai mewn dinasoedd, a rhai mewn lluesttai symmudadwy. Ymgynnaliai preswylwyr y dinasoedd drwy ammaethyddiaeth ac amryw gelfyddydau, ac yn enwedig masnach yn yr hyn y darfu i’r llwyth Koreish enwogi eu hunain yn foreu. Yr Arabiaid crwydrol a arferent fagu ac edrych ar ol gwartheg, ac yn achlysurol yspeilient deithwyr a elai heibio iddynt. oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum cânt o gyplau o wartheg, a phum cânt o asenod, a gweision lawer iawn, ac yr oedd y gwr hwn yn fawr rhagor holl feibion y dwyrain: 4ond fe elai ei feibion a gwnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; a danfonent a gwahoddent eu tair chwïorydd i fwytta ac i yfed gyda hwynt. 5A byddai, pan aethai dyddiau ’r wledd oddi amgylch, y danfonai Iöb (am danynt) ac y #1:5 Gwel Gen. 19:11.sancteiddiai hwynt, ac y codai yn fore ac y dygai boeth offrymmau (yn ol) eu rhifedi hwynt oll, canys dywedai Iöb, “Ond odid y pechodd fy meibion ac y canasant yn iach i Dduw yn eu calonnau.” Felly y gwnai Iöb bob amser.
6A bu, ar ddydd y daeth meibion Duw i ymorsafu ger bron Iehofah, fe ddaeth Satan hefyd yn eu plith hwy; 7a dywedodd Iehofah wrth Satan, “O ba le ’r ydwyt ti yn dyfod,” ac attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “O ddarymred ar hŷd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.” 8Yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “A ddeliaist ti dy sulw ar Fy ngwas Iöb? canys nid (oes) fel efe ar y ddaear, gwr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.” 9Yna yr attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “Ai yn ddïachos yr ofna Iöb Dduw? 10Onid Tydi a amgaëaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ ef, ac ynghylch yr hyn oll (sydd) eiddo oddi amgylch, ac a fendithiaist waith ei ddwylaw ef, a’i eiddo sy’n ymdaenu yn y ddaear? 11Eithr estyn, attolwg, Dy law a chyffwrdd â’r hyn oll (sydd) ganddo, (ac) yn ddïau, i’th wyneb y cân efe yn iach i Ti.” 12Yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “Wele yr hyn oll a’r (sydd) eiddo ef yn dy law di; yn unig arno ef nac estyn dy law;” ac aeth Satan allan oddi ger bron Iehofah.
13A bu, ar ddydd a’i feibion ef a’i ferched ef yn bwytta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd#1:13 “Brawd hynaf” — felly, yn uniongyrchol ar ol i’w tad eu sancteiddio hwynt, ac offrymmu ebyrth drostynt. hynaf, 14cennad a ddaeth at Iöb ac a ddywedodd, “Y gwartheg oedd yn aredig, a’r asenod yn pori ger llaw iddynt, 15ac fe syrthiodd Shabeaid (arnynt) a dygasant hwy, a’r llangciau, hwy a’u tarawsant â min y cleddyf; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:” 16a hwn etto yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth ac a ddywedodd, “Tân#1:16 “Tân Duw” = mellten. Duw a syrthiodd o’r nefoedd ac a losgodd y defaid a’r llangciau, ac a’u bwyttâodd hwynt; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:” 17a hwn etto yn llefaru, un arall a ddaeth ac a ddywedodd, “Y Caldëaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant ar y camelod, ac a’u dygasant hwy, a’r llangciau, hwy a’u tarawsant â min y cleddyf; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:” 18a hwn etto yn llefaru, un arall a ddaeth ac a ddywedodd, “Dy feibion a’th ferched (oedd) yn bwytta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf, 19ac wele, gwỳnt mawr a ddaeth o’r tu hwnt i’r anialwch, ac a darawodd wrth bedair congl y tŷ, ac fe syrthiodd (hwn) ar y bobl ieuaingc, a hwy a drengasant; a dïengais i, yn unig myfi, fy hunan, i fynegi i ti:” 20Yna y cyfododd Iöb, ac a rwygodd ei fantell, ac a gneifiodd ei ben, ac a warogaethodd, 21ac a ddywedodd,
“Noeth y daethum o groth fy mam,
A noeth y dychwelaf yno#1:21 = y bedd,
Iehofah a roes, ac Iehofah a ddug ymaith,
Bydded enw Iehofah yn fendigedig.”
22Yn hyn i gyd ni phechodd Iöb, ac ni phrïodolodd efe ynfydrwydd i Dduw.

S'ha seleccionat:

Iöb 1: CTB

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió