Iöb 2
2
II.
1A bu, ar ddydd y daeth meibion Duw i ymorsafu ger bron Iehofah, y daeth hefyd Satan yn eu plith hwynt i ymorsafu ger bron Iehofah, 2a dywedodd Iehofah wrth Satan, “O ba le’r ydwyt ti yn dyfod:” ac attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “O ddarymred ar hŷd y ddaear, ac o ymrodio ynddi:” 3yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “A ddeliaist ti dy sulw ar Fy ngwas Iöb? canys nid (oes) fel efe ar y ddaear, gwr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni, ac etto yn dal at ei berffeithrwydd er i ti Fy annog I yn ei erbyn ef i’w andwyo yn ddïachos:” 4ac attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “Croen#2:4 “Croen am groen.” Esponir y ddïareb hon fel hyn, “Ymosod di arno ef, sef ar ei gorph, ac efe a ymesyd arnat Ti;” neu fel hyn, “Crwyn ei wartheg oll, a chrwyn ei ddefaid oll, &c. a rydd dyn dros ei groen ei hun.” Yr esponiad cyntaf, hwyrach, yw’r goreu. Cydmerwch, “Llygad am lygad,” “Dant am ddant.” am groen, ac yr oll a’r (sydd) gan wr a rydd efe am ei einioes; 5eithr estyn, attolwg, Dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd ef, (ac) yn ddïau, i’th wyneb y cân efe yn iach i Ti.” 6Yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “Wele ef yn dy law di; ond, ei einioes ef, cadw di (hi).” 7Yna yr aeth Satan allan oddi ger bron Iehofah, ac a bläodd Iöb â chornwydydd drwg, o wadn ei droed hyd ei goryn; 8ac efe a gymmerth gragen i ymgrafu â hi, ac yntau yn eistedd ynghanol lludw. 9A#2:9 Merch deilwng Efa. dywedodd ei wraig wrtho, “Ai etto (yr wyt) ti yn dal at dy berffeithrwydd? Cân yn iach i Dduw, a bydd farw.” 10Yna y dywedodd efe wrthi, “Fel y llefarai un o’r gwragedd ynfydion, y lleferaist: ai y da a dderbyniwn ni oddi wrth Dduw, ac y drwg ni wnawn ei dderbyn?” Yn hyn i gyd ni phechodd Iöb a’i wefusau.
11A chlywodd tri chyfaill Iöb am yr holl ddrwg hwn a ddaethai arno, a daethant bob un o’i fangre ei hun, (sef) Eliphaz y Temaniad, a Bildad y Shwhiad, a Tsophar y Naamathiad, a chyttunasant i ddyfod i gyd-ofidio âg ef, ac i’w gysuro. 12A hwy a ddyrchafasant eu llygaid o bell ac nid adnabuont ef; a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant, ac a rwygasant bob un ei fantell, ac a daenasant lwch ar eu pennau tua ’r nefoedd: 13a hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith, ac nid oedd a ddywedodd wrtho air, canys gwelent mai mawr (oedd) ei ddolur yn odiaeth.
S'ha seleccionat:
Iöb 2: CTB
Subratllat
Comparteix
Copia
Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.