1
Ioan 15:5
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
“Fi yw’r Winwydden: chi yw’r canghennau. Mae pwy bynnag sy’n aros ynof fi a minnau ynddo yntau, yn ffrwytho’n drwm — oherwydd ar wahân i fi ellwch chi wneud dim.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 15:5
2
Ioan 15:4
Arhoswch ynof fi i minnau aros ynoch chi. Os nad arhoswch chi ynof fi, fedrwch chi ddim ffrwytho ddim mwy nag y gall y gangen ffrwytho os nad yw hi yn aros yn y winwydden.
Archwiliwch Ioan 15:4
3
Ioan 15:7
“Os arhoswch ynof fi, a’m geiriau i yn aros ynoch chi, gofynnwch am beth a fynnoch, ac fe’i cewch.
Archwiliwch Ioan 15:7
4
Ioan 15:16
Nid chi sydd wedi fy newis i, ond fi a’ch dewisodd chi, ac fe’ch penodais chi i fynd i ddwyn ffrwyth — ffrwyth yn dal yn ei flas — fel y bydd y Tad yn rhoi i chi unrhyw beth a ofynnwch yn f’enw i.
Archwiliwch Ioan 15:16
5
Ioan 15:13
Y cariad mwyaf y medr dyn ei ddangos tuag at ei ffrindiau yw rhoi ei fywyd drostyn nhw.
Archwiliwch Ioan 15:13
6
Ioan 15:2
Mae ef yn torri pob cangen ddiffrwyth arnaf i ffwrdd, ond yn tocio pob cangen ffrwythlon yn lân, er mwyn iddyn nhw gynhyrchu mwy o ffrwyth.
Archwiliwch Ioan 15:2
7
Ioan 15:12
Dyma fy ngorchymyn i chi: cerwch eich gilydd, yn union fel rwyf fi wedi eich caru chi.
Archwiliwch Ioan 15:12
8
Ioan 15:8
Dyma sut y gellir dangos gogoniant fy Nhad, trwy i chi ffrwytho’n helaeth a bod yn ddisgyblion i mi.
Archwiliwch Ioan 15:8
9
Ioan 15:1
“Fi yw’r wir Winwydden; fy Nhad yw’r gwinllannwr.
Archwiliwch Ioan 15:1
10
Ioan 15:6
Os na fydd dyn yn aros ynof fi fe gaiff ei daflu i ffwrdd fel cangen ac fe wywa. Mae’r canghennau crin yn cael eu casglu at ei gilydd, eu taflu ar y tân, a’u llosgi.
Archwiliwch Ioan 15:6
11
Ioan 15:11
“Rwyf wedi dweud hyn wrthych chi, i chi gael ynoch fy llawenydd i, ac i’ch llawenydd fod yn gyflawn.
Archwiliwch Ioan 15:11
12
Ioan 15:10
Os gwnewch chi ufuddhau i’m gorchmynion, fe arhoswch yn fy nghariad, fel y gwnes i ufuddhau i orchmynion fy Nhad, ac aros yr wyf yn ei gariad.
Archwiliwch Ioan 15:10
13
Ioan 15:17
Dyma fy ngorchymyn i chi: ‘Cerwch eich gilydd’.”
Archwiliwch Ioan 15:17
14
Ioan 15:19
Pe baech chi’n perthyn iddo byddai’r byd yn eich caru; ond fe’ch dewisais i chi allan o’r byd, a dydych chi ddim yn perthyn iddo, dyna pam y mae’n eich casáu chi.
Archwiliwch Ioan 15:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos