Eto, rwy’n dweud y gwir wrthych chi: rwy’n eich gadael chi er eich lles eich hunain. Os nad af i, ddaw’r Cynorthwywr ddim atoch chi, ond os af i i ffwrdd, fe anfonaf fi ef atoch chi. A phan ddaw, fe ddengys yn eglur i’r byd mor anghywir oedd ei syniad am bechod, am yr hyn sy’n iawn, ac am farn.