1
Ioan 3:16
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
“Do, fe garodd Duw bobl mor angerddol nes rhoi’r Unig Fab oedd ganddo, fel na chaiff neb sy’n ymddiried ynddo ei ddifetha, ond fel y caiff y bywyd nefol.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 3:16
2
Ioan 3:17
Nid anfon ei Fab i’r byd i fod yn Farnwr a wnaeth Duw ond i fod yn Waredwr y byd.
Archwiliwch Ioan 3:17
3
Ioan 3:3
“Cred fi,” meddai’r Iesu, “os na chaiff dyn ei eni o Dduw, wêl ef byth deyrnas Dduw.”
Archwiliwch Ioan 3:3
4
Ioan 3:18
“Nid yw’r sawl sy’n ymddiried ynddo ef yn cael ei farnu; mae’r sawl sy’n gwrthod credu wedi cael ei farnu’n barod am wrthod bod yn ffyddlon i Unig Fab Duw.
Archwiliwch Ioan 3:18
5
Ioan 3:19
Dyma ddull y barnu; er bod goleuni wedi dod i’r byd, mae dynion wedi dewis y tywyllwch yn lle’r goleuni am fod eu gweithredoedd nhw’n ddrwg.
Archwiliwch Ioan 3:19
6
Ioan 3:30
Hwn sydd i fynd yn fwy ac yn fwy, a finnau’n llai ac yn llai.
Archwiliwch Ioan 3:30
7
Ioan 3:20
Mae’n ffiaidd gan y drygionus y goleuni ac y maen nhw yn ei osgoi rhag i’w gweithredoedd drwg nhw gael eu dangos.
Archwiliwch Ioan 3:20
8
Ioan 3:36
Y sawl sy’n ymddiried yn y Mab — caiff ddechrau’r bywyd aruchel yn awr, ond chaiff yr un sy’n anufudd i’r Mab mo’r bywyd hwnnw — fe fydd ef yn byw o dan ddicter Duw.”
Archwiliwch Ioan 3:36
9
Ioan 3:14
Ac fe fydd rhaid codi Mab y Dyn i fyny yr un fath ag y cododd Moses y sarff yn y tir diffaith
Archwiliwch Ioan 3:14
10
Ioan 3:35
Mae’r Tad yn caru’r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei law.
Archwiliwch Ioan 3:35
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos