1
Luc 16:10
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Y sawl sydd onest yn y peth lleiaf fydd onest hefyd mewn llawer. A’r un modd y sawl sydd dwyllodrus yn y peth lleiaf, a fydd dwyllodrus mewn llawer.
Cymharu
Archwiliwch Luc 16:10
2
Luc 16:13
Ni all yr un gwas fod yn deyrngar i ddau feistr. Rhaid iddo naill ai gasáu un a charu’r llall, neu fod yn deyrngar i un ac yn ddirmygus o’r llall. Ni ellwch fod yn deyrngar i Dduw a golud.”
Archwiliwch Luc 16:13
3
Luc 16:11-12
Felly, pwy a fentra ymddiried y gwir olud ichi, a chithau wedi twyllo wrth drin eiddo llygredig? Os buoch anonest ynglŷn ag eiddo eraill, pwy a rydd i chi eich eiddo eich hun?
Archwiliwch Luc 16:11-12
4
Luc 16:31
Ond ateb Abraham i hynny oedd, ‘Os ydyn nhw yn fyddar i Foses a’r proffwydi, ni fydden nhw’n debyg o gredu chwaith hyd yn oed pe codai un o blith y meirw atyn nhw’.”
Archwiliwch Luc 16:31
5
Luc 16:18
Pwy bynnag a ysgar ei wraig a phriodi un arall, sydd yn godinebu, a’r un modd y sawl a briodo’r wraig a ysgarwyd.
Archwiliwch Luc 16:18
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos