Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 16

16
Defnyddio arian yn gywir
1Dywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, “Dywedwyd wrth ŵr cyfoethog, un tro, fod un o’r rhai oedd i fod i ofalu am ei eiddo yn ei wastraffu. 2Galwodd ef ato a’i holi, ‘Beth yw hyn rwy’n ei glywed amdanat? Tyrd â’r cyfrifon yma, gan na fydd angen dy wasanaeth eto.’ 3Ac meddai’r goruchwyliwr hwnnw wrtho’i hun, ‘Beth a wnaf yn awr, gan fod fy meistr yn mynd â’r swydd oddi arnaf? Rwy’n rhy wan i gloddio, ac mae gormod o gywilydd arnaf gardota. 4Fe wn beth a wnaf, fel y caf groeso i gartrefi pobl wedi imi golli fy ngwaith.’ 5Galwodd ato holl ddyledwyr ei feistr bob un, gan ofyn i’r cyntaf, ‘Beth yw maint dy ddyled di i’m meistr?’ 6Atebodd hwnnw, ‘Can baril o olew.’ Dywedodd yntau, ‘Cymer dy gownt, a rho i lawr hanner can baril.’ 7Yna, wrth un arall, ‘Beth amdanat ti?’ ‘Cant o fesurau o wenith.’ Ac meddai wrtho, ‘Dyma dy gownt dithau. Newid ef i wyth deg.’ 8Ac yn wir, canmolodd meistr y gwas euog hwnnw am fod mor gall, oherwydd mae pobl y byd hwn yn fwy cyfrwys na phlant y goleuni wrth ddelio â’u tebyg. 9Fy nghyngor i chi yw hyn: defnyddiwch eiddo, er iddo fod yn llygredig, i ennill cyfeillion, fel wedi iddo ddarfod, y cewch eich derbyn yn y diwedd i’r drigfan dragwyddol. 10Y sawl sydd onest yn y peth lleiaf fydd onest hefyd mewn llawer. A’r un modd y sawl sydd dwyllodrus yn y peth lleiaf, a fydd dwyllodrus mewn llawer. 11Felly, pwy a fentra ymddiried y gwir olud ichi, a chithau wedi twyllo wrth drin eiddo llygredig? 12Os buoch anonest ynglŷn ag eiddo eraill, pwy a rydd i chi eich eiddo eich hun? 13Ni all yr un gwas fod yn deyrngar i ddau feistr. Rhaid iddo naill ai gasáu un a charu’r llall, neu fod yn deyrngar i un ac yn ddirmygus o’r llall. Ni ellwch fod yn deyrngar i Dduw a golud.”
Ateb i’r Phariseaid cybyddlyd
14Roedd y Phariseaid yn gwrando ar hyn i gyd, a dyma nhw’n ei wawdio, canys roedden nhw yn caru arian. 15Dywedodd yntau wrthyn nhw, “Chi yw’r rhai sy’n hysbysebu eich daioni gerbron pobl, ond mae Duw yn gweld trwoch. Gall yr hyn a enillo ffafr dynion fod yn ffiaidd yng ngolwg Duw. 16Y Gyfraith a’r proffwydi oedd popeth hyd ddydd Ioan. Ond wedi hynny, cyhoeddwyd Newyddion Da teyrnasiad Duw, ac mae pawb yn gwthio’i ffordd i mewn iddi. 17Ac eto, byddai’n haws i’r nefoedd a’r ddaear fynd heibio nag i neb newid llythyren o’r Gyfraith. 18Pwy bynnag a ysgar ei wraig a phriodi un arall, sydd yn godinebu, a’r un modd y sawl a briodo’r wraig a ysgarwyd.
Y gŵr cyfoethog a Lasarus y cardotyn
19“Roedd un tro ŵr cyfoethog wedi ei wisgo mewn porffor a’r lliain meddal harddaf, ac yn gwledda’n foethus bob dydd. 20Wrth borth ei blas, yn gornwydydd o’i ben i’w draed, roedd cardotyn o’r enw Lasarus. 21Bu’n dyheu am dorri ei newyn â’r sborion oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog. Yn waeth byth, deuai’r cŵn i lyfu ei friwiau. 22Bu’r cardotyn farw, ac fe’i cludwyd gan yr angylion at Abraham. Bu’r gŵr cyfoethog hefyd farw, ac fe’i claddwyd. 23Edrychodd i fyny mewn poenau o’r dyfnderoedd, a gwelodd Abraham o bell a Lasarus wrth ei ochr. 24Galwodd arno, ‘Y Tad Abraham, cymer drugaredd arnaf ac anfon Lasarus i ddwyn diferyn o ddŵr imi i wlychu fy nhafod, gan fod y fflamau hyn yn annioddefol.’ 25Ond ateb Abraham oedd, ‘Fe gofi, fy mab, iti gael bywyd braf ohoni ar y ddaear, a Lasarus yn dioddef adfyd. Fel arall y mae hi bellach; mae ef yn cael cysur, a thithau’n dioddef. 26A sut bynnag, beth am yr agendor mawr yma a osodwyd rhyngom ni a chi, fel nad oes modd croesi o’r naill ochr na’r llall?’
27“‘Os felly, Dad,’ meddai’r gŵr cyfoethog eilwaith, ‘er mwyn popeth, anfon ef i dŷ fy nhad 28i rybuddio’r pum brawd sydd gen i, rhag iddyn nhwythau ddod i’r lle dieflig hwn.’ 29‘Mae ganddyn nhw Moses a’r proffwydi,’ ebe Abraham, ‘fe allan wrando arnyn nhw.’ 30‘Na, na, y Tad Abraham,’ meddai yntau, ‘petai rhywun oddi wrth y meirw yn rhoi tro amdanyn nhw, fe fydden nhw’n newid eu ffordd o fyw.’ 31Ond ateb Abraham i hynny oedd, ‘Os ydyn nhw yn fyddar i Foses a’r proffwydi, ni fydden nhw’n debyg o gredu chwaith hyd yn oed pe codai un o blith y meirw atyn nhw’.”

Dewis Presennol:

Luc 16: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda