Yna, dyma’r diafol yn ei gymryd i Jerwsalem, a’i osod ar dŵr ucha’r Deml.
“Os ti yw Mab Duw,” meddai, “tafla dy hun i lawr. Oblegid fel hyn y dywed yr Ysgrythur, ‘Fe orchymyn ef i’w angylion i ofalu amdanat; fe’th ddalian nhw di â’u dwylo, rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg’.”
Atebodd yr Iesu ef, “Fe ddywedwyd, ‘Paid â themtio yr Arglwydd, dy Dduw’.”