Dro arall, pan oedd mewn rhyw ddinas, daeth o hyd i ddyn oedd yn wahanglwyfus drosto i gyd. Pan welodd y dyn yr Iesu, syrthiodd ar ei wyneb, gan erfyn ei gymorth, “Syr, os wyt ti’n dewis, fe elli di fy ngwella i.”
Dyma’r Iesu yn estyn ei law, yn cyffwrdd ag ef, ac yn dweud, “Rydw i’n dewis. Bydd yn iach.”
Ac ar unwaith aeth y gwahanglwyf oddi wrtho.