1
1 Brenhinoedd 19:12
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain.
Cymharu
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:12
2
1 Brenhinoedd 19:4
Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, ARGLWYDD, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:4
3
1 Brenhinoedd 19:11
Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:11
4
1 Brenhinoedd 19:13
A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias?
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:13
5
1 Brenhinoedd 19:9
Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias?
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:9
6
1 Brenhinoedd 19:8
Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd DUW.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:8
7
1 Brenhinoedd 19:5
Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:5
8
1 Brenhinoedd 19:7
Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:7
9
1 Brenhinoedd 19:10
Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:10
10
1 Brenhinoedd 19:6
Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:6
11
1 Brenhinoedd 19:2
Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:2
12
1 Brenhinoedd 19:18
A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:18
13
1 Brenhinoedd 19:19
Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:19
14
1 Brenhinoedd 19:21
Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:21
15
1 Brenhinoedd 19:20
Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti?
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos