1
1 Samuel 16:7
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych DUW fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr ARGLWYDD a edrych ar y galon.
Cymharu
Archwiliwch 1 Samuel 16:7
2
1 Samuel 16:13
Yna y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.
Archwiliwch 1 Samuel 16:13
3
1 Samuel 16:11
Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio’r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma.
Archwiliwch 1 Samuel 16:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos