1
1 Samuel 17:45
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw ARGLWYDD y lluoedd, DUW byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti.
Cymharu
Archwiliwch 1 Samuel 17:45
2
1 Samuel 17:47
A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr ARGLWYDD: canys eiddo yr ARGLWYDD yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni.
Archwiliwch 1 Samuel 17:47
3
1 Samuel 17:37
Dywedodd Dafydd hefyd, Yr ARGLWYDD, yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a’r ARGLWYDD fyddo gyda thi.
Archwiliwch 1 Samuel 17:37
4
1 Samuel 17:46
Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod DUW yn Israel.
Archwiliwch 1 Samuel 17:46
5
1 Samuel 17:40
Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon, ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a’i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad.
Archwiliwch 1 Samuel 17:40
6
1 Samuel 17:32
A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn.
Archwiliwch 1 Samuel 17:32
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos