Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd.
A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD.