1
2 Cronicl 20:15
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW.
Cymharu
Archwiliwch 2 Cronicl 20:15
2
2 Cronicl 20:17
Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a’r ARGLWYDD fydd gyda chwi.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:17
3
2 Cronicl 20:12
O ein DUW ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:12
4
2 Cronicl 20:21
Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl, ac a osododd gantorion i’r ARGLWYDD, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr ARGLWYDD, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:21
5
2 Cronicl 20:22
Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant, y rhoddodd yr ARGLWYDD gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:22
6
2 Cronicl 20:3
A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:3
7
2 Cronicl 20:9
Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:9
8
2 Cronicl 20:16
Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:16
9
2 Cronicl 20:4
A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr ARGLWYDD: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio’r ARGLWYDD.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos