1
2 Brenhinoedd 5:1
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus.
Cymharu
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:1
2
2 Brenhinoedd 5:10
Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:10
3
2 Brenhinoedd 5:14
Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr DUW: a’i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:14
4
2 Brenhinoedd 5:11
Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr ARGLWYDD ei DDUW, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi y gwahanglwyfus.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:11
5
2 Brenhinoedd 5:13
A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân?
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:13
6
2 Brenhinoedd 5:3
A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachâi ef o’i wahanglwyf.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 5:3
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos