1
2 Samuel 18:33
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A’r brenin a gyffrôdd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab!
Cymharu
Archwiliwch 2 Samuel 18:33
2
2 Samuel 18:9-10
Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith. A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen.
Archwiliwch 2 Samuel 18:9-10
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos