1
Y Pregethwr 9:10
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur, gwna â’th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 9:10
2
Y Pregethwr 9:11
Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll.
Archwiliwch Y Pregethwr 9:11
3
Y Pregethwr 9:9
Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul.
Archwiliwch Y Pregethwr 9:9
4
Y Pregethwr 9:7
Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan DDUW dy weithredoedd.
Archwiliwch Y Pregethwr 9:7
5
Y Pregethwr 9:18
Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.
Archwiliwch Y Pregethwr 9:18
6
Y Pregethwr 9:17
Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid.
Archwiliwch Y Pregethwr 9:17
7
Y Pregethwr 9:5
Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd.
Archwiliwch Y Pregethwr 9:5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos