1
Esther 6:1-2
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin. Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o’r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.
Cymharu
Archwiliwch Esther 6:1-2
2
Esther 6:6
A phan ddaeth Haman i mewn, dywedodd y brenin wrtho, Beth a wneir i’r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon, I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi?
Archwiliwch Esther 6:6
3
Esther 6:10
Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman, Brysia, cymer y wisg a’r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na ad heb wneuthur ddim o’r hyn oll a leferaist.
Archwiliwch Esther 6:10
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos