1
Eseia 51:12
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn?
Cymharu
Archwiliwch Eseia 51:12
2
Eseia 51:16
Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.
Archwiliwch Eseia 51:16
3
Eseia 51:7
Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad.
Archwiliwch Eseia 51:7
4
Eseia 51:3
Oherwydd yr ARGLWYDD a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân.
Archwiliwch Eseia 51:3
5
Eseia 51:11
Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith.
Archwiliwch Eseia 51:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos