1
Iago 3:17
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith.
Cymharu
Archwiliwch Iago 3:17
2
Iago 3:13
Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.
Archwiliwch Iago 3:13
3
Iago 3:18
A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
Archwiliwch Iago 3:18
4
Iago 3:16
Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg.
Archwiliwch Iago 3:16
5
Iago 3:9-10
Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw. O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai’r pethau hyn fod felly.
Archwiliwch Iago 3:9-10
6
Iago 3:6
A’r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi’r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.
Archwiliwch Iago 3:6
7
Iago 3:8
Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol.
Archwiliwch Iago 3:8
8
Iago 3:1
Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy.
Archwiliwch Iago 3:1
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos