1
Iago 4:7
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych.
Cymharu
Archwiliwch Iago 4:7
2
Iago 4:8
Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg.
Archwiliwch Iago 4:8
3
Iago 4:10
Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi.
Archwiliwch Iago 4:10
4
Iago 4:6
Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig.
Archwiliwch Iago 4:6
5
Iago 4:17
Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.
Archwiliwch Iago 4:17
6
Iago 4:3
Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau.
Archwiliwch Iago 4:3
7
Iago 4:4
Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw.
Archwiliwch Iago 4:4
8
Iago 4:14
Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.
Archwiliwch Iago 4:14
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos