1
Mathew 3:8
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch.
Cymharu
Archwiliwch Mathew 3:8
2
Mathew 3:17
Ac wele lef o’r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
Archwiliwch Mathew 3:17
3
Mathew 3:16
A’r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef.
Archwiliwch Mathew 3:16
4
Mathew 3:11
Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân.
Archwiliwch Mathew 3:11
5
Mathew 3:10
Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
Archwiliwch Mathew 3:10
6
Mathew 3:3
Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef.
Archwiliwch Mathew 3:3
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos