1
Marc 10:45
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
Cymharu
Archwiliwch Marc 10:45
2
Marc 10:27
A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.
Archwiliwch Marc 10:27
3
Marc 10:52
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.
Archwiliwch Marc 10:52
4
Marc 10:9
Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.
Archwiliwch Marc 10:9
5
Marc 10:21
A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi.
Archwiliwch Marc 10:21
6
Marc 10:51
A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg.
Archwiliwch Marc 10:51
7
Marc 10:43
Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi
Archwiliwch Marc 10:43
8
Marc 10:15
Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
Archwiliwch Marc 10:15
9
Marc 10:31
Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant gyntaf.
Archwiliwch Marc 10:31
10
Marc 10:6-8
Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.
Archwiliwch Marc 10:6-8
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos