1
Marc 9:23
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo.
Cymharu
Archwiliwch Marc 9:23
2
Marc 9:24
Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i.
Archwiliwch Marc 9:24
3
Marc 9:28-29
Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilltu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.
Archwiliwch Marc 9:28-29
4
Marc 9:50
Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi-hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.
Archwiliwch Marc 9:50
5
Marc 9:37
Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.
Archwiliwch Marc 9:37
6
Marc 9:41
Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy.
Archwiliwch Marc 9:41
7
Marc 9:42
A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr.
Archwiliwch Marc 9:42
8
Marc 9:47
Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern
Archwiliwch Marc 9:47
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos