Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.