Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Titus 3

3
1Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod i bob gweithred dda, 2Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. 3Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd. 4Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, 5Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; 6Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: 7Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol. 8Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. 9Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer. 10Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd: 11Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan. 12Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aeafu. 13Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim. 14A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth. 15Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.

Dewis Presennol:

Titus 3: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda