1
Mathew 10:16
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
Dyma fi’n eich anfon chwi fel defaid i blith bleiddiaid; byddwch gall, ynteu, fel y seirff, a diniwed fel y colomennod.
Cymharu
Archwiliwch Mathew 10:16
2
Mathew 10:39
A gaffo’i fywyd a’i cyll, ac a gollo’i fywyd er fy mwyn i a’i caiff.
Archwiliwch Mathew 10:39
3
Mathew 10:28
Ac nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff, ond ni allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn a all ddinistrio enaid a chorff yng Ngehenna.
Archwiliwch Mathew 10:28
4
Mathew 10:38
a’r hwn ni chymero ei groes, a dilyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof i.
Archwiliwch Mathew 10:38
5
Mathew 10:32-33
Pob un, ynteu, â’m harddelo i yng ngŵydd dynion, arddelaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd. Ond y neb â’m gwado i yng ngŵydd dynion, gwadaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Archwiliwch Mathew 10:32-33
6
Mathew 10:8
Iachewch gleifion, cyfodwch feirw, glanhewch wahangleifion, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch yn rhad, rhowch yn rhad.
Archwiliwch Mathew 10:8
7
Mathew 10:31
Gan hynny peidiwch ag ofni; amgenach na llawer o adar to ydych chwi.
Archwiliwch Mathew 10:31
8
Mathew 10:34
Na thybiwch fy nyfod i ddwyn tangnefedd ar y ddaear; ni ddeuthum i ddwyn tangnefedd, ond cleddyf.
Archwiliwch Mathew 10:34
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos