Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 10

10
1Ac wedi galw ato’i ddeuddeg disgybl, fe roes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan, i’w bwrw allan, ac i iacháu pob clefyd a phob llesgedd. 2Enwau’r deuddeg apostol yw’r rhain: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, 3Phylip a Bartholomeus, Thomas a Mathew y trethwr, Iago fab Alffeus a Thadeus, 4Simon y Selot ac Iwdas Iscariot, y gŵr a’i bradychodd ef. 5Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, a gorchymyn iddynt gan ddywedyd:
“Nac ewch draw at y cenhedloedd, nac i mewn i ddinas i’r Samariaid; 6ond ewch yn hytrach at ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel. 7Ac wrth fyned, cyhoeddwch, gan ddywedyd ‘Nesaodd teyrnas nefoedd.’ 8Iachewch gleifion, cyfodwch feirw, glanhewch wahangleifion, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch yn rhad, rhowch yn rhad. 9Na fynnwch aur nac arian na phres yn eich gwregysau, 10na chod i daith, na dwy grysbais, nac esgidiau, na ffon; canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. 11Ac i ba ddinas neu bentref bynnag yr eloch i mewn, holwch pwy ynddi sydd deilwng; ac arhoswch yno hyd onid eloch ymaith. 12Ac wrth fynd i mewn i’r tŷ, cyferchwch well iddo; 13ac os bydd y tŷ’n deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ac oni bydd deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14A phwy bynnag ni’ch croesawo, ac ni wrandawo ar eich geiriau, wrth fynd allan o’r tŷ neu’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15Yn wir meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir Sodom a Gomorra yn nydd y farn nag i’r ddinas honno. 16Dyma fi’n eich anfon chwi fel defaid i blith bleiddiaid; byddwch gall, ynteu, fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17Gwyliwch rhag dynion; canys traddodant chwi i lysoedd, ac yn eu synagogau y’ch ffrewyllant; 18ie, a cherbron rhaglawiaid a brenhinoedd y’ch dygir o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19A phan draddodont chwi, na phryderwch pa fodd neu beth a leferwch; canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a leferwch, 20canys nid chwychwi sydd yn llefaru, eithr Ysbryd eich Tad sy’n llefaru ynoch chwi. 21A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a’u lladd; 22a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i; ond y neb a ymgynnal i’r diwedd, hwnnw a achubir. 23A phan erlidiont chwi yn y ddinas hon, ffowch i’r llall; canys yn wir meddaf i chwi, ni ddibennwch ddinasoedd Israel cyn dêl Mab y dyn. 24Nid yw disgybl uwchlaw ei athro, na gwas uwchlaw ei feistr. 25Digon i’r disgybl ddyfod fel ei athro, a’r gwas fel ei feistr. Os galwasant y penteulu’n Feelsebwl, pa faint mwy ei deulu ef. 26Gan hynny nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir. 27A ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni; ac a sibrydir yn eich clust,#10:27 Gr., a glywch yn y glust cyhoeddwch ar bennau’r tai. 28Ac nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff, ond ni allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn a all ddinistrio enaid a chorff yng Ngehenna. 29Oni werthir dau aderyn to am ffyrling? Ac ni syrth un ohonynt hwy ar y ddaear heb eich Tad chwi. 30Ond amdanoch chwi, y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo oll. 31Gan hynny peidiwch ag ofni; amgenach na llawer o adar to ydych chwi. 32Pob un, ynteu, â’m harddelo i yng ngŵydd dynion, arddelaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd. 33Ond y neb â’m gwado i yng ngŵydd dynion, gwadaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd.
34Na thybiwch fy nyfod i ddwyn tangnefedd ar y ddaear; ni ddeuthum i ddwyn tangnefedd, ond cleddyf. 35Canys deuthum i osod dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr, 36a gelynion dyn fydd ei deulu ei hun. 37A garo dad neu fam yn fwy na mi, nid yw deilwng ohonof i; ac a garo fab neu ferch yn fwy na mi, nid yw deilwng ohonof i; 38a’r hwn ni chymero ei groes, a dilyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof i. 39A gaffo’i fywyd a’i cyll, ac a gollo’i fywyd er fy mwyn i a’i caiff. 40Â’ch derbynio chwi â’m derbyn i; ac â’m derbynio i â dderbyn yr hwn â’m hanfonodd. 41Â dderbynio broffwyd am ei fod yn broffwyd, gwobr proffwyd a gaiff; ac â dderbynio un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, gwobr un cyfiawn a gaiff. 42A phwybynnag a ro i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn gwpanaid o ddŵr oer yn unig am ei fod yn ddisgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i wobr.”

Dewis Presennol:

Mathew 10: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda