Gwyn fyd y gwr ni rodia ’n ol
Drwg gyngor annuwiolion ffol;
Ni saif yn ffordd rhai drwg eu bryd,
Nid eiste’ ’mhlith gwatwarwŷr byd.
Ond sydd heb wyro byth yn byw
Dan hoffi cyfraith bur ei Dduw,
Ac ar ei ddeddfau glân a rydd
Ei fryd a’i fyfyr nos a dydd.