Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 23

Ei ras a’i ddaioni ’m canlynant Bob amser, caf lawnder dilyth, A minnau’n ddiogel breswyliaf Yn nghafell ei babell ef byth. NODIADAU. Y mae y salm fer hon yn un o emau tlysaf a gwerthfawrocaf “Peraidd ganiedydd Israel.” Y mae mor lawn o ddyddanwch ag ydyw amryw o’r salmau blaenorol o dristwch a thrallod. Yr oedd cystudd a galar megys wedi “ffoi ymaith” pan yr oedd efe yn ei chyfansoddi, ac yntau wedi goddiweddyd llawenydd a hyfrydwch. Bugeilgerdd ydyw; a bugail, neu un a fuasai yn fugail defaid, a’i cyfansoddodd. Teimlai y bugail hwn fod arno yntau ei hun angen am Fugail i ofalu am dano, a bod ganddo y cyfryw Fugail, ac mai Iehofah ei hun oedd hwnw. “Yr Arglwydd yw fy Mugail.” Y casgliad a dỳn efe oddi wrth y ffaith hon ydyw, “ni bydd eisieu arnaf.” Gofala pob bugail da hyd y gallo na byddo eisieu ar ei braidd; ond gallai amgylchiadau ddigwydd, megys amser sychder mawr, a barai i’w ddeadell fod mewn eisieu, er holl ofal a darbodaeth y bugail drostynt. Ni allasai Dafydd sicrhau na buasai byth eisieu ar ei braidd ef; ond yr oedd yn sicr ganddo na chai fod byth eisieu arno ef, gan fod yr Arglwydd yn fugail iddo. “Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog.” Nid yn unig, “ni bydd eisieu arnaf;” ond ‘myfi a gaf bob cyflawnder o bob daioni, a diogelwch hefyd.’ “Efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder, er mwyn ei enw:” er mwyn gogoniant ei enw, fel Bugail ac arweinydd ei braidd, fel y byddo iddynt hwy ogoneddu ei enw, a mynegu rhinweddau eu Bugail wrth ereill. Yna traetha y Salmydd lawn hyder ffydd yn ngallu a gofal ei Fugail da — y byddai iddo ei arwain a’i ddwyn yn ddiogel drwy bob peryglon a’i cyfarfyddent; ïe, drwy beryglon “glyn cysgod angeu,” nid ofnai efe niwed wrth rodio hwnw, gan y byddai ei Fugail gydag ef yno yn ei gysuro, a’i wialen a’i ffon i gadw pob bwystfil drwg a niweidiol draw, ac i wledda ei enaid â phob danteithion yn ngolwg ei elynion. Sicrhâ iddo ei hun y byddai i “ddaioni a thrugaredd yn ddiau ei ddilyn holl ddyddiau ei fywyd,” ac y cai “breswylio yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.” Gall yr enaid a wnaeth y salm hon yn eiddo iddo drwy ffydd ddywedyd, “Y llinynau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd, y mae i mi etifeddiaeth deg.” Un o hoff deitlau yr Arglwydd Iesu ydyw yr un a roddir iddo yn y salm hon; canys efe, fel y dywed am dano ei hun, yw y “Bugail da” hwn ( Ioan x.) — “Bugail ac esgob eneidiau” (1 Pedr ii. 25): “Bugail mawr y defaid” ( Heb . xiii. 20). Prophwydwyd llawer am dano yn yr Hen Destament dan y cymmeriad o Fugail.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Salmau 23