Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 22

Adrodd wnant i’r bobl a enir Foliant ei gyfiawnder gwyn, Mai efe o’i ras anfeidrol Sydd yn gwneyd y pethau hyn. NODIADAU. Mewn amryw o’i salmau, yr ydym yn cael Dafydd fel y pechadur, yn cyfaddef ei bechod, yn edifarhau o’i herwydd, ac yn gweddïo am faddeuant a chymmod. Mewn salmau ereill, cawn Dafydd, y diniwed, yn cael ei gamgyhuddo a’i erlid gan ei elynion, yn cwyno ei gam wrth ei Dduw, ac yn ymbil am nawdd ac ymwared ganddo; ac mewn rhai ereill drachefn, cawn Dafydd, y duwiolfrydig, yn dyrchafu ei enaid at Dduw mewn caniadau mawl a chlodforedd am wrandaw ei weddïau, a’i ddwyn allan o gyfyngderau a pheryglon. Mewn amryw ereill etto, cawn Dafydd, y prophwyd, yn llefaru am y Messiah oedd i ddyfod i’r byd; ac felly yn y salm hon. Cynnwysa y llyfr hwn, gan hyny, ei gyfran briodol i bob math a chyflwr o ddynion — pechaduriaid a saint. Yn y dosbarth cyntaf a nodwyd, “dysgir ffyrdd Duw i’r rhai anwir, er troi pechaduriaid ato.” Yn yr ail, ceir defnyddiau gweddi a chysur i’r Cristion trallodus a helbulus dan brofedigaethau bywyd. Yn y trydydd dosbarth, cawn ganiadau mawl a diolch i’r hwn sydd yn esmwyth arno, i’w canu a’u harfer fel cyfrwng i amlygu ei deimladau ger bron Duw am drugareddau a gwaredigaethau. Ac y mae y dosbarth olaf, y salmau prophwydoliaethol am Grist, mewn modd arbenig yn attegion cryfion i ffydd yr eglwys yn ysbrydoliaeth ddwyfol yr Ysgrythyr; ac yn y gwirionedd mawr, mai yr Iesu o Nazareth yw y Crist; ac hefyd i’w chadarnhau yn yr hyder gwynfydedig y bydd i’w deyrnas ef lwyddo i ennill y byd yn gyffredinol i gredu ynddo ac i ufuddhau iddo. Un, ac un nodedig o’r salmau prophwydoliaethol am y Messïah yw y salm hon. “Dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ol hyny,” yw ei thestyn. Llefara Dafydd am Grist ynddi yn ei berson ei hun; neu ynte, llefara y Messïah am dano ei hun yn ngenau Dafydd. Y mae ynddi amryw ymadroddion priodol i Dafydd eu defnyddio drosto ac yn ei achos ei hun, ond y maent yn briodol i Grist hefyd yn nyddiau ei gnawd; ac y mae ynddi lawer o ymadroddion na pherthynent ddim erioed i Dafydd a’i amgylchiadau mewn un modd, ond yn berthynasol i Grist yn hollol yn y llythyren o honynt. Defnyddiodd ein Gwaredwr y geiriau cyntaf o’r salm hon, fel y dengys yr efengylwyr Matthew a Marc ( Mat . xxvii. 46, a Marc xv. 34) i osod allan ei deimlad pan oedd ei enaid sanctaidd yn nyfnder ei ingoedd ar y groes. Cymmhwysa y pedwar efengylwr yr ymadroddion, “Y maent yn rhanu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren,” fel prophwydoliaeth am Grist, gan ddwyn tystiolaeth ddarfod i’r milwyr Rhufeinig ei chyflawni i’r llythyren o honi ar adeg y croeshoeliad. Yn wir, y mae yr holl ymadroddion, o adn. 7 hyd 21, yn ddrych cywir o amgylchiadau ein Gwaredwr, o’i ymdrech yn Gethsemane hyd awr ei farwolaeth ar y groes, fel y buasai yn hawdd i ddarllenydd ystyriol o’r Ysgrythyrau eu deall felly pe na buasai i’r efengylwyr son am danynt fel yn cyflawni prophwydoliaethau yr Hen Destament — hyny yw, pe na buasent ond yn unig wedi adrodd eu hanes. Yn y rhan olaf o’r salm, daw “y gogoniant ar ol hyny” i’r golwg, lle y mae y Gwaredwr yn llawenhau yn ei fuddugoliaeth ar ei elynion, ac yn moliannu y Tad yn y rhagolwg ar ffrwythau ei ddarostyngiad, a’i ing, a’i angeu, yn ei adgyfodiad o’r bedd, ei ogoneddiad yn y nefoedd, a llwyddiant cyffredinol ei deyrnas ar y ddaear — y deuai “holl had Iacob ac Israel,” “holl derfynau y ddaear,” holl dylwythau y Cenhedloedd, holl dlodion a holl rai breision y ddaear, i geisio Duw, i’w addoli a’i foliannu, fel y “ffrwyth lawer” a ddeilliai oddi wrth oruchwyliaeth ryfedd ei fywyd a’i farwolaeth ef. Gallem edrych ar Lyfr y Salmau, yn ol y dosraniad ar ddechreu y nodiadau ar y salm hon, fel yn dwyn cyffelybrwydd i’r deml a’i chynteddau, i’r hon y perthynai cyntedd y Cenhedloedd, cyntedd pobl Israel, cyntedd yr offeiriaid, a’i sanctaidd sancteiddiolaf. Felly teml y llyfr hwn:— y mae yma gyntedd i bechaduriaid edifeiriol, cyntedd i gredinwyr mewn gweddïau a mawl, a’r cyntedd sancteiddiolaf, lle y mae gogoniant y Messïah, fel yr unig Gyfryngwr rhwng Duw a dynion, yn cael ei ddadguddio a’i arddangos. Trwy gyntedd yr edifeiriol yr ä y pechadur, a thrwy ffydd yr ä y Cristion i’r cyssegr sancteiddiolaf at “Iesu cyfryngwr y Testament Newydd.”

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Salmau 22