Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 22

22
SALM XXII.
M. B.
I’r Pencerdd ar Aieleth hasahar, Salm Dafydd.
1Fy Nuw, pa fodd? pa ham —
Pa ham gwrthodaist fi?
Ac na wrandewi o dy lys
Fy nhrist gwynfanus gri?
2Llefain yr wyf y dydd,
Yn druan prudd ei wedd;
Y nos ’run modd — ond nid oes im’
Orphwysfa ddim, na hedd.
3Ond sanctaidd ydwyt ti,
Yr hwn mewn bri a braint
Sy’n trigo mewn goruchaf hawl
Yn nhemlau mawl y saint.
4Ein tadau ar eu taith
A ro’ent eu gobaith gynt,
A’u hyder, ynot:— yn ddiau
Gwaredaist dithau hwynt.
5Llefasant arnat, Nêr,
Dan lawer, lawer loes:
Achubaist, dygaist hwynt yn rhwydd
Trwy bob gwaradwydd croes.
Rhan II.
M. B.
6Myfi nid wyf ond pryf,
Heb ynof nwyf na nerth;
Dan w’radwydd dynion yn mhob man
Yr wyf yn wan heb werth.
7Pawb laesant arnaf wefl,
Gan fwrw mefl o’u mîn;
Ysgydwant oll eu penau’n ddig —
Yr wyf dan ddirmyg blin.
8Dywedant hwy fel hyn,
“Gobeithiodd yn ei Dduw —
Gwareded ef yn awr ar frys,
Os hoffus ganddo yw.”
9Tydi, fy Nuw, o’r bru
A’m tynaist i’n ddinam;
A gwnaethost im’ obeithio pan
Yn faban bronau ’m mam.
10O’r bru hyd yma ti’m
Cynheliaist i yn fyw;
O groth fy mam hyd angeu dig
Ti’n unig yw fy Nuw.
Rhan III.
M. B.
11Na ad fi, Arglwydd cu
Cyfyngder sy’n nesau;
Ac nid oes cynnorthwywr im’ —
Pawb sy’n fy llym gasau.
12Gwrdd‐deirw Basan gas
A’m cylchynasant gan,
13Fel llewod, rythu ’u safnau ’n haid,
I rwygo ’m henaid gwan.
14Fo’m tywallt fel dwfr chwyrn,
Mae ’m hesgyrn ar wahân;
Fy nghalon sydd yn toddi ’n llwyr,
Fel cŵyr o flaen y tân.
15Fy natur wywodd fel
Priddlestr isel werth;
Fy nhafod ballodd: dygaist i
Lwch angeu ’m bri a’m nerth.
16Cŵn lawer, yn eu chwant,
Sychedant am fy ngwaed:
Amgylchant fi — trywanant hwy
Fy nwylaw a fy nhraed.
Rhan IV.
8.7.
17Tremio mae fy esgyrn arnaf,
Gallaf fi eu cyfri’n rhwydd;
18Rhanu maent fy nillad rhyngddynt,
Wrth y coelbren, yn fy ngŵydd.
19-20Arglwydd, na fydd bell oddi wrthyf,
Fy nghadernid ydwyt ti;
Cofia am danaf, edrych arnaf,
Brysia i’m cynnorthwyo i.
Gwared f’enaid rhag y cleddyf,
A rhag safn y llew a’r ci;
21O fysg cyrn yr unicorniaid,
Clywaist a gwrandewaist fi.
22Mi fynegaf d’ enw i’m brodyr,
Molaf di ’n y dyrfa gref;
23Fel bo i’r rhai a’th ofnant, hwythau
Dy glodfori âg un llef.
Holl had Iacob, gogoneddwch,
Holl had Israel, ofnwch ef;
24Cofiodd am y tlawd cystuddiol,
A gwrandawodd ar ei lef.
25Canaf i ti fawl yn wastad,
Yn y gynnulleidfa fawr,
Talaf i ti f’ addunedau
Oll, ger bron dy saint yn awr.
Rhan V.
8.7.
26Y tylodion a’r newynog
A fwytânt — diwellir hwy;
A’r rhai geisiant Dduw, a’i molant,
Byw’n dragwyddol fyddant hwy.
27Holl derfynau ’r ddaear gofiant,
Ac a droant ato ef;
Ef addolir gan dylwythau ’r
Bobloedd oll o dan y nef.
28Can’s Iehofah bïau’r deyrnas:
Ef yn llywodraethu sy
’Mhlith Cenhedloedd ar y ddaear
Oddi ar ei orsedd fry.
29Y rhai breision uchel, hwythau
A fwytânt, gan foli’n llon;
Isel yn y llwch disgynant,
Wrth ymgrymu ger ei fron.
Canys nid oes neb all gadw ’n
Fyw ei enaid tlawd ei hun;
Duw yn unig, ef yw Ceidwad —
Ceidwad y truenus ddyn.
30Had ei anwyl waredigion
A’i gwas’naethant o un fryd;
Hwy gyfrifir yn briodol
Eiddo iddo yn y byd.
31Adrodd wnant i’r bobl a enir
Foliant ei gyfiawnder gwyn,
Mai efe o’i ras anfeidrol
Sydd yn gwneyd y pethau hyn.
Nodiadau.
Mewn amryw o’i salmau, yr ydym yn cael Dafydd fel y pechadur, yn cyfaddef ei bechod, yn edifarhau o’i herwydd, ac yn gweddïo am faddeuant a chymmod. Mewn salmau ereill, cawn Dafydd, y diniwed, yn cael ei gamgyhuddo a’i erlid gan ei elynion, yn cwyno ei gam wrth ei Dduw, ac yn ymbil am nawdd ac ymwared ganddo; ac mewn rhai ereill drachefn, cawn Dafydd, y duwiolfrydig, yn dyrchafu ei enaid at Dduw mewn caniadau mawl a chlodforedd am wrandaw ei weddïau, a’i ddwyn allan o gyfyngderau a pheryglon. Mewn amryw ereill etto, cawn Dafydd, y prophwyd, yn llefaru am y Messiah oedd i ddyfod i’r byd; ac felly yn y salm hon. Cynnwysa y llyfr hwn, gan hyny, ei gyfran briodol i bob math a chyflwr o ddynion — pechaduriaid a saint. Yn y dosbarth cyntaf a nodwyd, “dysgir ffyrdd Duw i’r rhai anwir, er troi pechaduriaid ato.” Yn yr ail, ceir defnyddiau gweddi a chysur i’r Cristion trallodus a helbulus dan brofedigaethau bywyd. Yn y trydydd dosbarth, cawn ganiadau mawl a diolch i’r hwn sydd yn esmwyth arno, i’w canu a’u harfer fel cyfrwng i amlygu ei deimladau ger bron Duw am drugareddau a gwaredigaethau. Ac y mae y dosbarth olaf, y salmau prophwydoliaethol am Grist, mewn modd arbenig yn attegion cryfion i ffydd yr eglwys yn ysbrydoliaeth ddwyfol yr Ysgrythyr; ac yn y gwirionedd mawr, mai yr Iesu o Nazareth yw y Crist; ac hefyd i’w chadarnhau yn yr hyder gwynfydedig y bydd i’w deyrnas ef lwyddo i ennill y byd yn gyffredinol i gredu ynddo ac i ufuddhau iddo.
Un, ac un nodedig o’r salmau prophwydoliaethol am y Messïah yw y salm hon. “Dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ol hyny,” yw ei thestyn. Llefara Dafydd am Grist ynddi yn ei berson ei hun; neu ynte, llefara y Messïah am dano ei hun yn ngenau Dafydd. Y mae ynddi amryw ymadroddion priodol i Dafydd eu defnyddio drosto ac yn ei achos ei hun, ond y maent yn briodol i Grist hefyd yn nyddiau ei gnawd; ac y mae ynddi lawer o ymadroddion na pherthynent ddim erioed i Dafydd a’i amgylchiadau mewn un modd, ond yn berthynasol i Grist yn hollol yn y llythyren o honynt. Defnyddiodd ein Gwaredwr y geiriau cyntaf o’r salm hon, fel y dengys yr efengylwyr Matthew a Marc (Mat. xxvii. 46, a Marc xv. 34) i osod allan ei deimlad pan oedd ei enaid sanctaidd yn nyfnder ei ingoedd ar y groes. Cymmhwysa y pedwar efengylwr yr ymadroddion, “Y maent yn rhanu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren,” fel prophwydoliaeth am Grist, gan ddwyn tystiolaeth ddarfod i’r milwyr Rhufeinig ei chyflawni i’r llythyren o honi ar adeg y croeshoeliad. Yn wir, y mae yr holl ymadroddion, o adn. 7 hyd 21, yn ddrych cywir o amgylchiadau ein Gwaredwr, o’i ymdrech yn Gethsemane hyd awr ei farwolaeth ar y groes, fel y buasai yn hawdd i ddarllenydd ystyriol o’r Ysgrythyrau eu deall felly pe na buasai i’r efengylwyr son am danynt fel yn cyflawni prophwydoliaethau yr Hen Destament — hyny yw, pe na buasent ond yn unig wedi adrodd eu hanes.
Yn y rhan olaf o’r salm, daw “y gogoniant ar ol hyny” i’r golwg, lle y mae y Gwaredwr yn llawenhau yn ei fuddugoliaeth ar ei elynion, ac yn moliannu y Tad yn y rhagolwg ar ffrwythau ei ddarostyngiad, a’i ing, a’i angeu, yn ei adgyfodiad o’r bedd, ei ogoneddiad yn y nefoedd, a llwyddiant cyffredinol ei deyrnas ar y ddaear — y deuai “holl had Iacob ac Israel,” “holl derfynau y ddaear,” holl dylwythau y Cenhedloedd, holl dlodion a holl rai breision y ddaear, i geisio Duw, i’w addoli a’i foliannu, fel y “ffrwyth lawer” a ddeilliai oddi wrth oruchwyliaeth ryfedd ei fywyd a’i farwolaeth ef.
Gallem edrych ar Lyfr y Salmau, yn ol y dosraniad ar ddechreu y nodiadau ar y salm hon, fel yn dwyn cyffelybrwydd i’r deml a’i chynteddau, i’r hon y perthynai cyntedd y Cenhedloedd, cyntedd pobl Israel, cyntedd yr offeiriaid, a’i sanctaidd sancteiddiolaf. Felly teml y llyfr hwn:— y mae yma gyntedd i bechaduriaid edifeiriol, cyntedd i gredinwyr mewn gweddïau a mawl, a’r cyntedd sancteiddiolaf, lle y mae gogoniant y Messïah, fel yr unig Gyfryngwr rhwng Duw a dynion, yn cael ei ddadguddio a’i arddangos. Trwy gyntedd yr edifeiriol yr ä y pechadur, a thrwy ffydd yr ä y Cristion i’r cyssegr sancteiddiolaf at “Iesu cyfryngwr y Testament Newydd.”

Dewis Presennol:

Salmau 22: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda