Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 59

I ti y canaf, O fy Nuw! Ti yw fy amddiffynfa; Duw fy nhrugaredd! Duw fy mhlaid! Fy enaid a’th glodfora. NODIADAU. Hon yw y drydedd, a’r salm olaf, yn nosbarth yr Al‐taschith ; ac etto y mae yn bur amlwg oddi wrth yr hysbysiad sydd o’i blaen, mai hi oedd y gyntaf o ran amser o’r tair. Ezra, mae yn llwyr debygol, yn Babilon, neu wedi y dychweliad o Babilon, a ddosbarthodd y Salmau yn y drefn y maent genym ni. Fel y mae yr Hebraeg i’w darllen o’r llaw ddehau at y llaw aswy — o chwithig i ni, felly y mae y dosbarth hwn o’r Salmau, a rhai ereill hefyd, wedi eu gosod; y rhai cyntaf yn olaf, a’r rhai olaf yn gyntaf. Cyfansoddodd Dafydd y salm hon, fel y dengys ei theitl, ar yr achlysur “pan anfonodd Saul rai i wylio y tŷ i’w ladd ef.” Am yr amgylchiad hwnw, cawn hanes dyddorol iawn yn 1 Sam xix. Ychydig fisoedd cyn hyny, priodasai Dafydd Michal, merch Saul. “Rhoddaf hi iddo ef,” meddai y brenin, “fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid arno ef.” Yr oedd ganddo yn ddiau sail i ddisgwyl hyny, oddi wrth gymmeriad cyffredinol ei ferch; canys yr oedd mwy o ysbryd Saul ei thad, nac o ysbryd Ionathan ei brawd, ynddi hi: ond siomwyd ef ynddi y tro hwnw, fodd bynag. Bu yn ffyddlawn i’w gŵr pan ddaeth awr y brofedigaeth arni. Naturiol i ni gasglu ddarfod i Ionathan, yr hwn a gadwai wyliadwriaeth graffus ar holl gynghorion Saul, a gwŷr ei lys, yn eu perthynas â Dafydd, gael gwybyddiaeth am y gydfradwriaeth i’w ladd ef yn ei dŷ; ac iddo fyned at ei chwaer, ac iddynt drefnu eu cynllun i siomi y cynllwynwyr yn eu hymgais, a Saul yn ei fwriad. Gollyngodd Michal ei gŵr allan drwy y ffenestr yn nyfnder y nos, pan yr oedd gweision Saul wedi dyfod ac ar amgylchu y tŷ; a rhag y buasai iddynt erlid ar ei ol, dywedodd wrthynt fod Dafydd, nid wedi diangc, ond yn glaf yn ei wely; fel y bu raid iddynt ddychwelyd at eu meistr am gyfarwyddyd beth i’w wneyd. Felly, cyn iddynt hwy ddychwelyd yn ol y boreu nesaf, yr oedd Dafydd yn mhell ar ei ffordd i Ramah at Samuel; ac ar ei ffordd yno y mae yn bur debygol y cyfansoddodd efe ei Al‐taschith hon. Yma y dechreua bywyd crwydrol Dafydd. Hon oedd y ffoedigaeth gyntaf oddi cartref rhag Saul, er y buasai ei fywyd mawn enbydrwydd droion o’r blaen; ond yma y mae yn myned i ddyfroedd dyfnion ei brofedigaethau a’i beryglon, a thrwy y profedigaethau hyny yn dysgu ymddiried yn yr Arglwydd ei Dduw. “Gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch, a dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith,” medd yr apostol ( Rhuf . v. 3, 4): ac yr ydym yn cael Dafydd yn esampl nodedig o hyn. Fel yr oedd ei beryglon a’i brofedigaethau ef yn amlhau ac yn trymhau, felly hefyd yr oedd ei obaith a’i hyder yn Nuw yn cryfhau. Achwyna yn chwerw yn y salm hon o herwydd malais a llid diachos Saul tuag ato; ac yn enwedig ei weision, gwŷr llys Saul, y rhai a wnaent eu goreu i chwythu ac i ennyn eiddigedd Saul yn fwy angerddol i’w erbyn, trwy ddwyn camachwynion, a dyfeisio celwyddau arno. Traetha farn drom yn eu herbyn yn ei weddi hon, a gedy eu hachos hwy a’i fater ei hun yn llaw Duw. Wedi yr achwynion trymion ar hyd y salm, y mae yn tori i ganu yn felus iawn ar ei diwedd, gan deimlo ei hun yn ddiogel dan nawdd ac amddiffyn Duw. “Minnau a ganaf am dy nerth,” medd efe, “ïe, llafar‐ganaf am dy drugaredd yn foreu, canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.” Nid oedd fawr o ganu fel hyn yn nghalon ac yn llys Saul: “Yno teyrnasai cenfigen chwerw, ac ymryson, a phob drwg.” Ond, wele y truan y cynllwynent hwy am ei einioes ddydd a nos, yn llafar‐ganu mawl a diolchgarwch i’w Dduw yn nghanol ei drallodion blinion. “Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti, am ei fod yn ymddiried ynot;” Esa . xxvi. 3. Yn nghanol yr amgylchiadau blinion hyny, disgleiria cymmeriad Ionathan fel yr haul yn ei nerth. Methodd holl lygredigaethau a halogrwydd llys ei dad lychwino dim ar ei burdeb ef. Parhaodd yn ffyddlawn i Dafydd hyd y diwedd, yn nghanol ei fradwyr maleisus. Mewn gair, un o gymmeriadau prydferthaf ac anrhydeddusaf hanesyddiaeth yr Hen Destament ydyw Ionathan.