Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 60

Yn Nuw yn unig gwnawn, Wroldeb ar y gelyn, Ei sathru i lawr a gawn. NODIADAU. Yr oedd ugain mlynedd, beth bynag, o amser rhwng y pryd y cyfansoddwyd y salm hon a’r un o’r blaen. Cyfansoddodd Dafydd lawer o salmau yn y cyfwng hwnw o amser, y rhai a geir un yma ac un acw yn y llyfr. Am ystyr y “Susan‐eduth,” yn nheitl y salm hon etto, nid oes un sicrwydd. Offeryn cerdd chwe‐thant, ar yr hwn yr oedd i’w chanu, a olygir, medd rhai. Cyfansoddwyd hi, medd yr hysbysiad sydd o’i blaen, ar achlysur buddugoliaethau mawrion ar y Philistiaid, y Moabiaid, y Syriaid, a’r Edomiaid, yn gynnar ar deyrnasiad Dafydd, pan oedd llwythau Israel etto heb lwyr ddychwelyd ato, ac ymgyfanu dan ei lywodraeth. Cwyna yn y dechreu o herwydd y cyflwr isel y syrthiasai y wladwriaeth iddo tua diwedd teyrnasiad Saul, ac yn enwedig mewn canlyniad i fuddugoliaeth y Philistiaid ar Israel ar fynydd Gilboa, pan y lladdwyd Saul a’i feibion; ac wedi hyny drachefn yn ystod y tymmor y buasai rhyfel caled rhwng tŷ Saul, a gynnelid i fyny drwy ddylanwad Abner, a’i dŷ ef. Wedi marwolaeth Abner ac Isboseth, dechreuodd y llwythau syrthio at Dafydd; a’r gelynion cymmydogaethol yn gweled hyny, a benderfynasant wneyd ymosodiad egnïol i geisio attal Dafydd i gyfanu y deyrnas, yr hon oedd megys wedi ei hollti, fel y dywed ef yn y salm, ac yn crynu gan wendid ac ofn. Ofnai y gelynion hyny rhag i frenhiniaeth Israel fyned yn rhy gref iddynt, yn enwedig dan ryfelwr mor enwog a Dafydd. Tarawodd ef y Philistiaid, hen elynion mwyaf peryglus Israel, yn gyntaf, a llwyr ddarostyngodd hwynt; ac yna gorchfygodd Syriaid Mesopotamia a Sobah; a thua’r un pryd tarawodd Abisai, brawd Ioab, yr Edomiaid, a lladdodd ddeunaw mil o honynt (1 Cron . xviii. 12); a thrachefn ymladdwyd brwydr benderfynol rhwng Ioab a’r Edomiaid yn Nyffryn yr Halen, yr hwn a laddodd ddeuddeng mil o honynt, ac a’u llwyr ddarostyngodd. Effeithiodd y buddugoliaethau mawrion hyn i ddwyn calonau holl Israel at Dafydd, pan welsant fel yr oedd yr Arglwydd yn ei lwyddo. Rhoddai’r Arglwydd y llwyddiant hwn megys baner i’r bobl i’w dyrchafu, “o herwydd y gwirionedd” a lefarasai efe wrth ac am Dafydd, i ddangos iddynt ei fod yn dychwelyd atynt drachefn i’w hamddiffyn a’u gwaredu. Llawenycha yntau yn yr hyn a lefarasai “Duw yn ei sancteiddrwydd,” neu yn ei deml sanctaidd, am dano, gan sicrhau iddo ei hun y buasai yn dwyn yr holl lwythau i blygu yn wirfoddol iddo, ac y cadarnheid ei orsedd dano. Yr oedd dychweliad llwythau Israel at Dafydd a’i frenhiniaeth, a’u huniad â’u gilydd yn un deyrnas dano, mewn canlyniad i’r buddugoliaethau hyny, megys yn cysgodi galwad y Cenhedloedd at Grist, ac uniad Iuddewon a Chenhedloedd â’u gilydd yn un eglwys — “yn un corph drwy y groes,” fel ffrwyth buddugoliaethau ysbrydol ei angeu, ei adgyfodiad, a’i esgyniad i’r nefoedd, a thywalltiad yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost.