Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 80

O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr! Attolwg, dychwel ni yn awr; Llewyrcha ’th wyneb, a nyni Achubir i’th glodfori di. NODIADAU. Yr ydym yn cael ein troi yn ol etto yn y salm hon at amgylchiadau ac awdwr cynnarach nag amgylchiadau ac awduriaeth y salm o’r blaen. Fel y mae disgrifiadau hono yn cyfatteb yn gywir i’r hanes am ddinystr Ierusalem a’r caethgludiad i Babilon, fel nas gellir yn rhesymol ei phriodoli i un cyfnod arall, felly y mae rhai ymadroddion yn y salm hon na fuasent briodol i’w defnyddio ar y pryd hwnw. Megys, “Yr hwn wyt yn eistedd rhwng y cerubiaid.” Nid oedd Iehofah yn eistedd rhwng y cerubiaid wedi i Ierusalem a’r deml gael eu llosgi â thân, o blegid yr hyn y cwynai yn y salm flaenorol. O ran a wyddom ni, yr oedd yr arch hithau wedi ei llosgi yn llosgiad y deml; beth bynag, nid oes byth air o hanes am dani wedi hyny. Tybia yr Esgob Patrick mai tua’r amser y caethgludodd Salmaneser, brenin Assyria, y deg llwyth, pan yr ymosododd Senacherib ar Iudah ac Ierusalem — sef, yn amser Hezeciah — y cyfansoddwyd y salm hon. Y mae Hezecïah, yn y cyfyngder hwnw, yn dechreu ei weddi at Dduw yn erbyn brenin Assyria — yn union fel y gwna Asaph yn y salm hon: 2 Bren . xix. 15, 16; Esa . xxxvii. 16, 17. Ond pa ham y crybwyllir am Ephraim, a Beniamin, a Manasseh yma yn anad y llwythau ereill? Yn yr hanes am y Pasc a gynnaliodd Hezeciah yn Ierusalem (2 Cron . xxx.), cawn ddarfod iddo anfon llythyrau yn llaw rhedegwyr, y rhai “a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Ephraim a Manasseh hyd Zabulon,” i wahodd y llwythau hyny i ddyfod i Ierusalem i gynnal y Pasc i’r Arglwydd; a dywedir yn mhellach, ddarfod i “lawer o’r bobl, sef llawer o Ephraim, a Manasseh, a Zabulon, ac Issachar”, dderbyn y gwahoddiad, a dyfod i Ierusalem: a dichon y cyfeiria y Salmydd at yr amgylchiad hwnw. A pheth arall, yn ol trefn osodedig Duw i’r llwythau yn yr anialwch, yr oedd gwersyll Iudah, yn cynnwys llwythau Issachar a Zabulon, a gwersyll Reuben, yn cynnwys llwythau Simeon a Gad, yn gwersyllu yn mlaenaf, ac yn cychwyn yn gyntaf pan gyfodai y golofn. Gwersyllai y Lefiaid a’r arch o’r tu ol i wersylloedd Iudah a Reuben, yn nghanol y gwersylloedd; ac yn nesaf ati, yr oedd gwersyll Ephraim, yn cynnwys llwythau Manasseh a Beniamin ( Num . ii. 18); felly, yr oedd yr hwn a drigai rhwng y cerubiaid ar y drugareddfa yn cyfodi “ei nerth,” fel y dywed Asaph yma, “o flaen Ephraim, a Manasseh, a Beniamin” yn llythyrenol. Gweddïa y Salmydd yma am i’r Arglwydd ddangos ei ffafr yn gyffelyb etto i’r llwythau hyny drwy eu hamddiffyn a’u bendithio, y rhai a dderbyniasant â chalonau ewyllysgar wahoddiad Hezeciah i ddyfod i Ierusalem i gadw y Pasc. Y mae gwaredigaeth Israel o’r Aipht, dan y gymmhariaeth o winwydden, ei dygiad i Wlad yr Addewid — ei phlaniad yno, a’i thyfiad a’i chynnydd rhagorol, nes y cuddiai y mynyddoedd gan ei chysgod, yr estynai ei changau hyd y môr (Môr y Canoldir), “a’i blagur hyd yr afon” (yr afon Euphrates), yn dlws a barddonol iawn; a gweddïa dros y winwydden anrheithiedig hono yn awr, pan yr oedd y “baedd o’r coed yn ei thirio, a bwystfil y maes yn ei phori,” sef brenhinoedd Assyria a Chaldea, am i’r Arglwydd ail ymweled â hi yn ei raslonrwydd, i’w hadferu i gyflwr llwyddiannus drachefn — ar fod iddo noddi y brenin duwiol Hezeciah rhag ei elynion, yr hwn a eilw efe yn “fab y dyn, a gŵr deheulaw Duw,” a sicrhasai efe iddo ei hun, yn ol ei gyfammod â, a’i addewid i Dafydd, fel y caffai praidd a defaid porfa Bugail Israel destyn etto i’w foliannu ef.