Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 80

80
SALM LXXX.
M. H.
I’r Pencerdd, ar Sosannim Eduth, Salm Asaph.
1O Fugail Israel! gwrandaw’n cŵyn,
Nawdd Ioseph, a’i arweinydd mwyn;
Ac ymddisgleiria di, ’r hwn sy
Yn eistedd rhwng cerubiaid fry.
2Dy nerthoedd o flaen Ephraim rho,
Manasse, a Beniamin fo
O dan d’ amddiffyn cadarn di;
Yn iachawdwriaeth bydd i ni.
3Attolwg, dychwel ni, O Dduw!
Llewyrcha wedd dy wyneb gwiw:
Ac felly achubir ni yn awr
I gydglodfori d’ enw mawr.
4Pa hyd y sori, O Arglwydd Dduw!
Wrth weddi ’th bobl? Brysia, clyw!
5A bara dagrau, fwy na mwy,
Y porthaist a diodaist hwy.
6Gosodaist ni yn gynnen gâs
I’n holl gym’dogion, wŷr di‐ras;
A’n holl elynion yn gyttûn
Gwatwarant ni ’n eu mysg eu hun.
7O Dduw y lluoedd! dychwel ni,
Llewyrch wedd dy wyneb cu;
A ni a achubir — felly cawn
Foliannu d’enw ’n llawen iawn.
Rhan II.
M. H.
8Ti fudaist y winwydden îr
O’r Aipht, lle bu dan wasgfa ’n hir;
Cenhedloedd Canaan fwriaist ti
O’r tir o’i blaen, a phlenaist hi.
9Arloesaist felly ’r d’rysni mawr,
Peraist i’w gwraidd i wreiddio lawr;
Hi lanwai’r tir, a’i chysgod mâd
10Orchuddiai fryniau ucha’r wlad.
Ei changau oedd fel cedrwydd, 11trwy’r
Tir hyd y môr estynent hwy;
A’i blagur hyd yr afon aeth,
Cynnyddu felly ’n ddirfawr wnaeth.
12Pam rhwygaist ti ei chaeau llawn,
Fel tyno pawb êl heibio ’i grawn?
13Y baedd o’r coed a’i tiria ’n awr,
A bwystfil brwnt y maes a’i pawr.
14O Dduw y lluoedd! tro yn awr;
Gwel, edrych di o’r nef i lawr;
Ac ymwêl â’r winwydden hon
Sydd wedi crino ger dy fron.
15Y winllan blenaist â’th law gun,
Ac gadarnheaist it’ dy hun;
16Llosgwyd hi â thân, torwyd hi lawr,
Dyfethwyd hi â’th gerydd mawr.
17Bydded dy law dros fab y dyn
A gadarnheaist di dy hun;
18Felly ’ddiar d’ol ni chiliwn ni:
Bywhâ ni, a galwn arnat ti.
19O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr!
Attolwg, dychwel ni yn awr;
Llewyrcha ’th wyneb, a nyni
Achubir i’th glodfori di.
Nodiadau.
Yr ydym yn cael ein troi yn ol etto yn y salm hon at amgylchiadau ac awdwr cynnarach nag amgylchiadau ac awduriaeth y salm o’r blaen. Fel y mae disgrifiadau hono yn cyfatteb yn gywir i’r hanes am ddinystr Ierusalem a’r caethgludiad i Babilon, fel nas gellir yn rhesymol ei phriodoli i un cyfnod arall, felly y mae rhai ymadroddion yn y salm hon na fuasent briodol i’w defnyddio ar y pryd hwnw. Megys, “Yr hwn wyt yn eistedd rhwng y cerubiaid.” Nid oedd Iehofah yn eistedd rhwng y cerubiaid wedi i Ierusalem a’r deml gael eu llosgi â thân, o blegid yr hyn y cwynai yn y salm flaenorol. O ran a wyddom ni, yr oedd yr arch hithau wedi ei llosgi yn llosgiad y deml; beth bynag, nid oes byth air o hanes am dani wedi hyny. Tybia yr Esgob Patrick mai tua’r amser y caethgludodd Salmaneser, brenin Assyria, y deg llwyth, pan yr ymosododd Senacherib ar Iudah ac Ierusalem — sef, yn amser Hezeciah — y cyfansoddwyd y salm hon. Y mae Hezecïah, yn y cyfyngder hwnw, yn dechreu ei weddi at Dduw yn erbyn brenin Assyria — yn union fel y gwna Asaph yn y salm hon: 2 Bren. xix. 15, 16; Esa. xxxvii. 16, 17. Ond pa ham y crybwyllir am Ephraim, a Beniamin, a Manasseh yma yn anad y llwythau ereill? Yn yr hanes am y Pasc a gynnaliodd Hezeciah yn Ierusalem (2 Cron. xxx.), cawn ddarfod iddo anfon llythyrau yn llaw rhedegwyr, y rhai “a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Ephraim a Manasseh hyd Zabulon,” i wahodd y llwythau hyny i ddyfod i Ierusalem i gynnal y Pasc i’r Arglwydd; a dywedir yn mhellach, ddarfod i “lawer o’r bobl, sef llawer o Ephraim, a Manasseh, a Zabulon, ac Issachar”, dderbyn y gwahoddiad, a dyfod i Ierusalem: a dichon y cyfeiria y Salmydd at yr amgylchiad hwnw. A pheth arall, yn ol trefn osodedig Duw i’r llwythau yn yr anialwch, yr oedd gwersyll Iudah, yn cynnwys llwythau Issachar a Zabulon, a gwersyll Reuben, yn cynnwys llwythau Simeon a Gad, yn gwersyllu yn mlaenaf, ac yn cychwyn yn gyntaf pan gyfodai y golofn. Gwersyllai y Lefiaid a’r arch o’r tu ol i wersylloedd Iudah a Reuben, yn nghanol y gwersylloedd; ac yn nesaf ati, yr oedd gwersyll Ephraim, yn cynnwys llwythau Manasseh a Beniamin (Num. ii. 18); felly, yr oedd yr hwn a drigai rhwng y cerubiaid ar y drugareddfa yn cyfodi “ei nerth,” fel y dywed Asaph yma, “o flaen Ephraim, a Manasseh, a Beniamin” yn llythyrenol. Gweddïa y Salmydd yma am i’r Arglwydd ddangos ei ffafr yn gyffelyb etto i’r llwythau hyny drwy eu hamddiffyn a’u bendithio, y rhai a dderbyniasant â chalonau ewyllysgar wahoddiad Hezeciah i ddyfod i Ierusalem i gadw y Pasc.
Y mae gwaredigaeth Israel o’r Aipht, dan y gymmhariaeth o winwydden, ei dygiad i Wlad yr Addewid — ei phlaniad yno, a’i thyfiad a’i chynnydd rhagorol, nes y cuddiai y mynyddoedd gan ei chysgod, yr estynai ei changau hyd y môr (Môr y Canoldir), “a’i blagur hyd yr afon” (yr afon Euphrates), yn dlws a barddonol iawn; a gweddïa dros y winwydden anrheithiedig hono yn awr, pan yr oedd y “baedd o’r coed yn ei thirio, a bwystfil y maes yn ei phori,” sef brenhinoedd Assyria a Chaldea, am i’r Arglwydd ail ymweled â hi yn ei raslonrwydd, i’w hadferu i gyflwr llwyddiannus drachefn — ar fod iddo noddi y brenin duwiol Hezeciah rhag ei elynion, yr hwn a eilw efe yn “fab y dyn, a gŵr deheulaw Duw,” a sicrhasai efe iddo ei hun, yn ol ei gyfammod â, a’i addewid i Dafydd, fel y caffai praidd a defaid porfa Bugail Israel destyn etto i’w foliannu ef.

Dewis Presennol:

Salmau 80: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda