Ac yr oedd Pharisëad, a’i enw Nicodemus, pènaeth i’r Iuddewon, yr hwn á ddaeth at Iesu liw nos, ac á ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni á wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti gwedi dyfod oddwrth Dduw; canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai bod Duw gydag ef. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe ddirnad Teyrnasiad Duw. Nicodemus á atebodd, Pa fodd y dichon dyn wedi tyfu i fyny gael ei eni? A ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Iesu á atebodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, oddieithr geni dyn o ddwfr ac Ysbryd, ni ddichon efe fyned i fewn i deyrnas Duw. Yr hyn à aned o’r cnawd sy gnawd; yr hyn à aned o’r Ysbryd sydd ysbryd Na ryfedda, gàn hyny, ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae yn raid eich geni chwi drachefn. Y mae yr Ysbryd yn anadlu lle y mỳno, a thi á glywi y son am dano, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned; felly y mae pob un à aned o’r Ysbryd. Nicodemus á atebodd, Pa fodd y gall y pethau hyn fod? Iesu á adatebodd, A wyt ti yn ddysgawdwr Israel, a heb wybod y pethau hyn? Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, Mai yr hyn à wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn à welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; èr hyny ein tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. Os nad oeddych yn dëall pán ddywedais i chwi bethau daiarol, pa fodd, pàn ddywedwyf i chwi bethau nefol, y deallwch? Canys nid esgynodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn á ddisgynodd o’r nef; Mab y Dyn yr hwn sydd a’i drigfa yn y nef. Megys y gosododd Moses yn uchel y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn raid i Fab y Dyn gael ei osod yn uchel; fel na choller pwybynag á gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol; canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwybynag á gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Oblegid Duw á ddanfonodd ei Fab i’r byd, nid i gollfarnu y byd, ond fel yr achubid y byd drwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni chollfernir; yr hwn nid yw yn credu á gollfarnwyd èisioes, am na chredodd yn enw uniganedig Fab Duw. A dyma sail y golledigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a dewis o ddynion y tywyllwch o flaen y goleuni, am fod eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. Canys pwybynag sydd yn gwneuthur drwg sydd yn casâu y goleuni, ac yn ciliaw oddwrtho, fel nas dadguddier ei weithredoedd ef. Ond yr hwn sydd yn ufyddâu i’r gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel y byddo yn amlwg bod ei weithredoedd ef yn rhyngu bodd Duw.