Yn mhen tridiau, yr oedd priodas yn Nghana Galilea, a mam Iesu oedd yno. Iesu hefyd a’i ddysgyblion á wahoddwyd i’r briodas. Pan ballodd y gwin, mam Iesu á ddywedodd wrtho, Nid oes ganddynt ddim gwin. Iesu á atebodd, Wraig, beth sydd à wnelych â mi? Ni ddaeth fy amser i eto. Ei fam ef á ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Bethbynag á ddywedo efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri cèryg, à ddalient ddau neu dri bath bob un, wedi eu gosod yno at y defodau Iuddewig o lanâu. Iesu á ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri â dwfr. A hwy á’u llanwasant hyd yr ymyl. Yna efe á ddywedodd, Gollyngwch yn awr, a dygwch at arglwydd y wledd. A hwy á wnaethant felly. Pan brofodd arglwydd y wledd y gwin à wnaethid o ddwfr, heb wybod o ba le yr ydoedd, (ond y gwasanaethwyr, y rhai á ollyngasent y dwfr á wyddent,) efe á ddywedodd, gàn gyfarch y priodfab, Pob dyn á esyd y gwin goreu yn gyntaf gèr bron, ac yna un à fo gwaeth, wedi i’r gwesteion yfed yn helaeth; tithau á gedwaist y goreu hyd yr awr hon. Y wyrth gyntaf hon á wnaeth Iesu yn Nghana Galilea, gàn ddadlènu ei ogoniant: a’i ddysgyblion á gredasant ynddo.