Pan ddaethant i’r lle à elwir Calfaria, yno yr hoeliasant ef wrth groes, a’r drygweithredwyr hefyd; un àr y llaw ddëau, y llall àr yr aswy. Ac Iesu á ddywedodd, O Dad, maddau iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy á rànasant ei ddillad ef wrth goelbren. Tra yr oedd y bobl yn sefyll i syllu, hyd yn nod eu pènaethiaid á ymunent â hwy iddei wátwar ef, a dywedyd, Hwn á waredodd ereill; gwareded ei hun, os efe yw y Messia, etholedig Duw. Y milwyr hefyd á’i gwatwarasant ef, gàn ddyfod a chynnyg iddo winegr, a dywedyd; Os ti yw Brenin yr Iuddewon, gwared dy hun. Yr oedd hefyd graifft uwch ei ben ef yn Roeg, Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IUDDEWON.