Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Luwc 4

Gwedi dyfod i Nasareth, lle y magesid ef, efe á aeth i’r gynnullfa, yn ol ei arfer, àr y Seibiaeth, ac à safodd i fyny i ddarllen. A rhoddwyd yn ei law lyfr y Proffwyd Isaia, a gwedi iddo agoryd y llyfr, efe á gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, “Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, o herwydd iddo fy eneinio i gyhoeddi newydd da i’r tylodion, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai gorthrymedig yn ryddion, i gyhoeddi blwyddyn cymeradwyaeth gyda ’r Arglwydd,” A gwedi iddo gau y llyfr, a’i roddi i’r gweinydd efe á eisteddodd. A llygaid pawb yn y gynnullfa oedd yn craffu arno. Ac efe á ddechreuodd drwy ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr ysgrythyr yr ydych newydd ei chlywed. A phawb á’i clodforent ef; ond wedi sỳnu wrth y geiriau rhadlawn à draethai efe, dywedasant, Onid mab Ioseph yw hwn? Yntau á ddywedodd wrthynt, Diammhau y cymhwyswch ataf y ddiareb hon, “Feddyg, iachâa dy hun.” Gwna yma yn dy wlad dy hun, weithredoedd cymaint ag y clywsom i ti eu gwneuthur yn Nghapernäum. Ond y gwir yw, meddai efe, Ni bu un proffwyd erioed yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, bod llawer o wragedd gweddwon yn Israel yn nyddiau Elias, pan gauwyd y nef dair blynedd a hanner, fel y bu newyn mawr drwy yr holl dir; ond nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond at wraig weddw o Sarepta yn Sidonia. Llawer o wahangleifion hefyd oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; a ni lanâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad. A’r rhai oll yn y gynnullfa, wrth glywed hyn, á lanwyd o ddigofaint, a gwedi codi i fyny, á’i gỳrasant ef allan o’r ddinas, ac á’i dygasant ef hyd àr ael y bryn, yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, fel y bwrient ef bendramwnwgl i lawr. Yntau, gan fyned drwy eu canol hwynt, à aeth ymaith.