Yna Herod wedi galw y magiaid yn ddirgel, á ’u holodd hwynt yn fanwl yn nghylch amser ymddangosiad y seren. A chàn eu hanfon hwynt i Fethlehem, efe á ddywedodd, Ewch, gwnewch ymofyniad manwl yn nghylch y plentyn, a gwedi i chwi ei gael ef, dygwch air i mi, fel yr elwyf finnau hefyd, a gwarogaethu iddo. Gwedi clywed y brenin, hwy á ymadawsant; ac wele! y seren à ymddangosasai iddynt yn ngwlad y dwyrain, á symudai o’u blaen hwynt, hyd oni ddaeth, a sefyll uwch y fan, lle yr oedd y plentyn. Pan welsant y seren eilwaith, hwy á lawenychasant yn ddirfawr. A gwedi eu dyfod i’r tŷ, hwy á ganfuant y plentyn gyda Mair ei fam; a chàn ymgrymu à warogaethasant iddo. Yna, gwedi agor eu cistanau, hwy á offrymasant yn anrhegion iddo, aur, thus, a mỳr. A gwedi eu rhybyddio mewn breuddwyd i beidio dychwelyd at Herod, hwy á aethant adref ffordd arall.
Gwedi iddynt fyned, wele! cènad i’r Arglwydd á ymddangosodd i Ioseph mewn breuddwyd, ac á ddywedodd, Cyfod, cỳmer y plentyn gyda’ i fam, a ffo i’r Aifft; ac aros yno hyd oni orchymynwyf i ti’; canys Herod á geisia y plentyn iddei ddyfetha ef. Yn ganlynol, efe á gyfododd, á gymerodd y plentyn, gyda’ i fam, ac á giliodd o hyd nos i’r Aifft, lle yr arosodd efe hyd farwolaeth Herod; fel y gwireddid yr hyn à ddywedasai yr Arglwydd drwy y Proffwyd, “O’r Aifft y gelwais fy Mab.”