Ond efe, wrth weled llawer o Pharisëaid a Saduwcëaid yn dyfod ato i dderbyn trochiad, á ddywedai wrthynt, Essill gwiberod, pwy á ddangosodd i chwi pa fodd i ffoi rhag y dialedd sydd àr ddyfod? Dygwch, gàn hyny, ffrwyth priodol diwygiad, a na ryfygwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym Abraham yn dad i ni, canys yr wyf yn sicrâu i chwi, y dichon Duw, o’r cèryg hyn, gyfodi plant i Abraham. A’r awr hon hefyd, y mae y fwyell wedi ei gosod wrth wreiddyn y prèniau; pob pren, gàn hyny, nad yw yn dwyn ffrwyth da, á dòrir i lawr, ac á droir yn danwydd. Myfi, yn wir, wyf yn eich trochi chwi mewn dwfr, i ddiwygiad; ond yr hwn sydd yn dyfod àr fy ol i, sydd alluocach na mi, esgidiau yr hwn nid wyf deilwng iddeu dwyn. Efe á’ch trocha chwi yn yr Ysbryd Glan, ac yn tân. Yr hwn y mae ei nithraw yn ei law, ac efe á lwyrlanâa ei rawn; efe á gasgl ei wenith i’r heiniardy, ac á ddifa yr us mewn tân anniffoddadwy.