“A tithau, Solomon fy mab, gwna’n siŵr dy fod yn nabod Duw dy dad. Rho dy hun yn llwyr i’w addoli a’i wasanaethu yn frwd. Mae’r ARGLWYDD yn gwybod beth sy’n mynd drwy feddwl pawb, ac yn gwybod pam maen nhw’n gwneud pethau. Os byddi di’n ceisio’r ARGLWYDD go iawn, bydd e’n gadael i ti ddod o hyd iddo. Ond os byddi di’n troi cefn arno, bydd e’n dy wrthod di am byth.