1
1 Samuel 17:45
beibl.net 2015, 2024
Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti’n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i’n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti’n ei herio.
Cymharu
Archwiliwch 1 Samuel 17:45
2
1 Samuel 17:47
A bydd pawb sydd yma yn dod i weld mai nid gyda chleddyf a gwaywffon mae’r ARGLWYDD yn achub. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e’n eich rhoi chi yn ein gafael ni.”
Archwiliwch 1 Samuel 17:47
3
1 Samuel 17:37
Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a’r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A’r ARGLWYDD fo gyda ti.”
Archwiliwch 1 Samuel 17:37
4
1 Samuel 17:46
Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i’n mynd i dy ladd di a thorri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw.
Archwiliwch 1 Samuel 17:46
5
1 Samuel 17:40
Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o’r sychnant a’u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu’r Philistiad gyda’i ffon dafl yn ei law.
Archwiliwch 1 Samuel 17:40
6
1 Samuel 17:32
Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i’n barod i ymladd y Philistiad yna!”
Archwiliwch 1 Samuel 17:32
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos