1
2 Cronicl 20:15
beibl.net 2015, 2024
Dyma fe’n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy’n byw yn Jerwsalem, a’r Brenin Jehosaffat. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a pheidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi.
Cymharu
Archwiliwch 2 Cronicl 20:15
2
2 Cronicl 20:17
Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na phanicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae’r ARGLWYDD gyda chi!’”
Archwiliwch 2 Cronicl 20:17
3
2 Cronicl 20:12
Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy’n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dŷn ni’n troi atat ti am help.”
Archwiliwch 2 Cronicl 20:12
4
2 Cronicl 20:21
Ar ôl trafod gyda’r bobl dyma fe’n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli’r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu, “Diolchwch i’r ARGLWYDD; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
Archwiliwch 2 Cronicl 20:21
5
2 Cronicl 20:22
Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma’r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a’u trechu nhw.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:22
6
2 Cronicl 20:3
Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe’n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:3
7
2 Cronicl 20:9
‘Os daw unrhyw drychineb, fel byddin yn ymosod, cael ein barnu drwy haint neu newyn, gallwn ddod i sefyll yma o dy flaen, o flaen y deml (gan dy fod ti’n bresennol yma). Gallwn alw arnat ti a byddi’n gwrando ac yn ein hachub ni.’
Archwiliwch 2 Cronicl 20:9
8
2 Cronicl 20:16
Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw’n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw’r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:16
9
2 Cronicl 20:4
Felly dyma bobl Jwda yn dod at ei gilydd i ofyn i’r ARGLWYDD am help. Roedden nhw wedi dod o bob un o drefi Jwda.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos