1
2 Thesaloniaid 2:3
beibl.net 2015, 2024
Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i’r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy’n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i’r golwg, sef yr un sydd wedi’i gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw.
Cymharu
Archwiliwch 2 Thesaloniaid 2:3
2
2 Thesaloniaid 2:13
Ond mae’n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi’ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy’r Ysbryd sy’n eich gwneud chi’n lân a thrwy i chi gredu’r gwir.
Archwiliwch 2 Thesaloniaid 2:13
3
2 Thesaloniaid 2:4
Dyma elyn mawr Duw, yr un sy’n meddwl ei fod yn well na’r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‘dduw’ arall sy’n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw.
Archwiliwch 2 Thesaloniaid 2:4
4
2 Thesaloniaid 2:16-17
Dw i’n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi’n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni), yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi wneud a dweud beth sy’n dda.
Archwiliwch 2 Thesaloniaid 2:16-17
5
2 Thesaloniaid 2:11
Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd.
Archwiliwch 2 Thesaloniaid 2:11
6
2 Thesaloniaid 2:9-10
Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo’r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill. Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo’r rhai sy’n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu’r gwir fyddai’n eu hachub nhw.
Archwiliwch 2 Thesaloniaid 2:9-10
7
2 Thesaloniaid 2:7
Wrth gwrs, mae’r dylanwad dirgel sy’n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy’n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o’r neilltu.
Archwiliwch 2 Thesaloniaid 2:7
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos