Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai’r ARGLWYDD.
‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o mlaen i?
Fi roddodd dywod ar y traeth
fel ffin nad ydy’r môr i’w chroesi.
Er bod y tonnau’n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo;
er eu bod nhw’n rhuo, ân nhw ddim heibio.