“Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai’r ARGLWYDD
“Ie, troi yn ôl!
Cael gwared â’r eilun-dduwiau ffiaidd yna o’m golwg i
a stopio crwydro o hyn ymlaen;
dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw,
‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’
Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo’u bendithio nhw,
a byddan nhw’n ymffrostio ynddo.”