1
Ioan 13:34-35
beibl.net 2015, 2024
“Dw i’n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu’ch gilydd yn union fel dw i wedi’ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.”
Cymharu
Archwiliwch Ioan 13:34-35
2
Ioan 13:14-15
Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a’ch Athro wedi golchi’ch traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd. Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i’ch gilydd.
Archwiliwch Ioan 13:14-15
3
Ioan 13:7
Atebodd Iesu, “Ti ddim yn deall beth dw i’n wneud ar hyn o bryd, ond byddi’n dod i ddeall yn nes ymlaen.”
Archwiliwch Ioan 13:7
4
Ioan 13:16
Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na’r un wnaeth ei anfon e.
Archwiliwch Ioan 13:16
5
Ioan 13:17
Dych chi’n gwybod y pethau yma, ond eu gwneud sy’n dod â bendith.
Archwiliwch Ioan 13:17
6
Ioan 13:4-5
Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol. Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a’u sychu gyda’r tywel oedd am ei ganol.
Archwiliwch Ioan 13:4-5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos